4 min.
Cyflwyno podlediad newydd sy’n dathlu fy hoff beth – llyfrau!
Dach chi, ddarllenwyr Lingo Newydd, yn creu rhestr o addunedau Blwyddyn Newydd? Dw i ddim fel arfer, ond os ydw i, dw i’n tueddu i ddisgyn allan o’r arferion da – fel yfed mwy o ddw^ r, neu wneud mwy o ymarfer corff – erbyn diwedd mis Ionawr. A dw i’n siw^ r nad fi ydy’r unig un – mae’n anodd iawn cadw at addunedau weithiau!
Ond mi fydda i’n gosod un adduned neu nod penodol bob blwyddyn ac mae wastad yn ymwneud â darllen a llyfrau. Eleni, dw i wedi gosod targed o ddarllen 65 o lyfrau. Gyda bywyd prysur, mae’r nod yma’n swnio’n uchelgeisiol – ond os dach chi’n fy nabod i, mi fyddwch chi’n gwybod fy mod i byth yn gweld darllen fel tasg heriol.
Chwalu’r stigma!…