3 min.
Croeso i ‘Cucina Francesca’!
Fel Eidales ystrydebol dw i wrth fy modd yn coginio. Ond faswn i ddim yn disgrifio fy hun fel cogydd anturus. Dw i am drïo newid hynny dros y flwyddyn yma, gobeithio! Dw i’n tueddu i wneud yr un ryseitiau drosodd a throsodd, am eu bod nhw’n ffefrynnau personol, neu’n arbennig i’r teulu.
Mae llawer o fy atgofion cynnar am geginau fy Mam, Nonna (Nain), a modrybedd, yng Nghymru a’r Eidal. Does dim byd gwell nag oglau saws pasta, neu sugo fel ’dyn ni’n ei alw, yn llenwi’r gegin a’r tŷ. Mae pob un sugo yn arbennig i bob unigolyn, a dw i’n dal i drïo perffeithio fy sugo fy hun – mae’n cymryd blynyddoedd, ond gobeithio fy mod i ar y ffordd!
Yn fy nghegin i, dw i’n cadw llun o…