6 min.
Enid Blyton, Cymru a’r Nadolig…
Yr adeg yma o’r flwyddyn, dw i’n aml yn meddwl am ddathlu’r Nadolig pan oeddwn i’n blentyn. Mae llawer o atgofion hapus. Dw i’n hoffi meddwl nôl am y teulu, y bwyd, y dathlu ac, wrth gwrs, yr anrhegion. Ydych chi wedi cadw anrhegion Nadolig gawsoch chi fel plentyn? Mae’r eitemau yma yn codi hiraeth.
Fel plentyn roeddwn i’n darllen trwy’r amser. Dw i’n dal i fwynhau llyfrau ac mae’r hoffter yna yn dod o fy mhlentyndod.
Am nifer o flynyddoedd, roeddwn i’n cael llawer o lyfrau yn anrhegion, ac roedd llawer iawn ohonyn nhw gan yr awdur Enid Blyton. Mae hi wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd i, a bydda i’n ddiolchgar iddi hi am byth. Hi oedd wedi magu fy nghariad at ddarllen a storïau. Fel oedolyn,…