5 min.
Dw i’n hoffi… gyda Sara Peacock
Sara, beth ydy…?
…dy hoff ffilm a dy hoff ffilm Nadolig?
Fy hoff ffilm yw un glasurol: Singing in the Rain. Mae’r sgript mor ddoniol a chlyfar, y cymeriadau’n lliwgar, a’r coreograffi a’r dawnsio mor slic. O ran ffilm Nadolig, Gremlins dw i’n credu - unwaith eto, rhywbeth doniol!
…dy hoff lyfr?
Wwwww… mae hynny’n anodd. Dw i’n dwlu ar ddarllen, ac mae wastad nofel (neu ddwy!) ar y gweill ’da fi. Dw i wedi mwynhau Cloud Cuckoo Land gan Anthony Doerr yn ddiweddar. Mae’n stori gymhleth ond efo diweddglo da iawn. O ran llyfrau Cymraeg, y nofel Cymraeg gyntaf a ddarllenais i erioed oedd Blasu gan Manon Steffan Ros. Dych chi’n dysgu am gymeriad trwy lygaid pawb o’i chwmpas hi ac, yn y diwedd, dych chi’n teimlo fel eich bod chi wir yn…