6 min.
EICH TUDALEN CHI
Bywyd syml
Annwyl lingo newydd, Wnes i ddarllen gyda diddordeb llythyr Jay Ramsurrun yn lingo newydd (Hydref/Tachwedd) am ddod o hyd i adfail hen fwthyn. Pan o’n i’n blentyn, ro’n i’n byw mewn bwthyn bach fel yr un yn llun Jay – cyn iddo fynd yn adfail, wrth gwrs!
Yn ystod yr Ail Ryfel y Byd, ro’n i’n byw efo fy Nain, fel efaciwî, mewn bwthyn heb drydan, heb nwy, a heb dd[r. Coed Bonwm oedd enw’r ardal, rhwng Corwen a Llangollen, yn Sir Ddinbych. Roedd gorsaf drenau fach yno ar y pryd. Does dim byd i weld yno r[an, dim bwthyn a dim gorsaf.
Bob bore roedden ni’n mynd efo bwced i’r ffrwd fach gerllaw, sy’n llifo i lawr y mynydd ac i Afon Dyfrdwy. Roedd digon o dd[r i wneud paned…