4 min.
Teyrnasiad ‘Terracottapolis’
Mae clwb pêl-droed Wrecsam wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar ar ôl cael ei brynu gan y ddau actor Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney. Ond oeddech chi’n gwybod bod Wrecsam yn arfer bod yn enwog am ei brics coch, teils a teracota?
O fythynnod i blastai mawr, mae lloriau teils wedi bod yn nodwedd bwysig ers canrifoedd. Ond oeddech chi’n gwybod bod y diwydiant cynhyrchu teils yn rhan fawr o hanes Cymru?
Mae sawl ardal yng Nghymru sydd â chysylltiad â diwydiannau mawr, fel glo, copr, a haearn. Ond, ar un adeg, roedd Wrecsam mor enwog am gynhyrchu teils, brics a theracota, cafodd yr enw ‘Terracottapolis’.
Roedd Wrecsam yn enwog am gynhyrchu teils llawr addurniadol, fel teils teracota neu deils coch.
Beth yw teracota?
Clai sydd wedi cael ei danio yw teracota. Mae…