3 min.
Dathliad sy’n uno’r Cymry
Mae pob math o wyliau’n digwydd yng Nghymru dros yr haf. Ond yr un fwyaf ydy’r Eisteddfod Genedlaethol. Does dim gŵyl arall yn y byd yn debyg i’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n ddathliad sy’n uno’r Cymry o bob oedran.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn digwydd bob blwyddyn gydag wyth diwrnod o gystadlu a pherfformio. Dyma’r ŵyl gerddoriaeth a barddoniaeth fwya’ yn Ewrop. Mae dros 6,000 yn cystadlu ac mae tua 150,000 o bobl yn mynd i’r Eisteddfod.
Fel arfer, mae’n digwydd yn wythnos gyntaf mis Awst. Mae’r Eisteddfod mewn gwahanol ran o’r wlad bob blwyddyn.
Cerrig yr Orsedd
Mae gan yr Eisteddfod hanes hir. Mae wedi symud gyda’r oes i gynnig pethau traddodiadol a modern. Mae cystadlaethau canu, dawnsio, adrodd, ysgrifennu, a chelf, gyda gwobrau mawr. Mae llwyfan ar gyfer gigs, stondinau bwyd, crefftau, pebyll gwyddoniaeth,…