Llwyddwyd i gyflawni hyn diolch i'r gwaith o ailddatblygu'r cyfleuster gwerth £12.2 miliwn a wnaed gan Grwp Cynefin sydd â swyddfeydd yn Ninbych.
Gweithiodd y gymdeithas dai mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru a roddodd £7.1 miliwn o'i chronfa Rhaglen Tai Cymdeithasol tuag at y gost gyffredinol.
Mae'r datblygiad carbon isel wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion pobl hyn yn Sir Ddinbych ac mae'n cynnwys 35 o fflatiau un a dwy ystafell wely yn ogystal â'r 21 fflat presennol.
Mae'r cynllun yn ymgorffori ardaloedd cymunedol fel gerddi, lolfeydd, bwyty a salon trin gwallt.
Bydd yr ail gam i uwchraddio rhan hyn y cynllun yn cael ei gwblhau yn 2025.
Cafodd uwch-swyddogion o Grwp Cynefin ynghyd ag aelodau o Gyngor Sir Ddinbych eu tywys o gwmpas y cyfleuster.
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cyngor Sir Ddinbych: "Roedd yn bleser pur ymweld â Llys Awelon a gweld beth mae'r ailddatblygiad rhyfeddol hwn wedi'i gyflawni.
"Mae'r tai modern hyn yn berffaith i ddiwallu anghenion y boblogaeth hyn yn Sir Ddinbych sy'n flaenoriaeth fawr i'r cyngor.
"Hoffwn ddiolch i Grwp Cynefin a Read Construction am y gwaith gwych y maent wedi'i wneud ac roedd gweld tenantiaid yn symud i mewn yn destun llawenydd mawr."
image [https://cdn.magzter.com/1583575389/1735797056/articles/pXCGeRzkrh3JlvXebGpACC/1557351708.jpg]
Roedd hefyd yn foment falch i Bennaeth Datblygu Grwp Cynefin, Arwyn Evans.
Dywedodd: "Roedd mynd ag aelodau o Gyngor Sir Ddinbych o gwmpas Llys Awelon i weld y cynnyrch gorffenedig yn brofiad gwych.
"Maen nhw'n bartneriaid cefnogol iawn yn y prosiect hwn, fel y mae'r holl bartneriaid perthnasol wedi bod. Roedd bob amser yn mynd i fod yn adeilad cymhleth, gyda llawer o ystyriaeth.
"Mae'r cwmni adeiladu, Read, wedi bod yn wych yn cydweithio â staff Grwp Cynefin ac y...