Bydd yr ap yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf, yn benodol i'r unigolyn, ar ôl pob apwyntiad ac yn anfon negeseuon amserol i sicrhau beichiogrwydd iach.
Bydd yn disodli nodiadau papur ac yn galluogi menywod i wneud y canlynol:
* Gweld apwyntiadau sydd wedi'u trefnu,
* Dysgu mwy am ddatblygiad eu babi a gweld datblygiadau'n wythnosol,
* Rhoi darlleniad pwysedd gwaed os bydd eu bydwraig wedi gofyn amdano,
* Personoli manylion a dewisiadau'n gyflym, gan gynnwys ble maen nhw eisiau rhoi genedigaeth ac unrhyw alergeddau sydd ganddyn nhw.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:
"Mae'n gyffrous gweld ap newydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru. Bydd yn helpu i rymuso darpar famau a rhoi llais iddyn nhw yn eu gofal mamolaeth.
"Bydd yr ap a'r cofnod iechyd electronig yn helpu i wella ansawdd a diogelwch gofal i fenywod a babanod ledled Cymru."
Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka:
"I fenywod yng Nghymru, bydd cofnod digidol ar gyfer gofal mamolaeth yn fodd o gael y gofal iawn, ar yr adeg iawn, waeth ble maen nhw, gan helpu i hwyluso a chefnogi eu teithiau iechyd a mamolaeth.
"Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i weithwyr gofal iechyd proffesiynol rannu gwybodaeth bwysig a gwneud penderfyniadau cyflym ar sail hynny, gan roi i fenywod y gofal personol y maen nhw'n ei haeddu."
Bydd y cofnod iechyd mamolaeth electronig, a gyflwynir ochr yn ochr â'r ap, yn sicrhau y bydd clinigwyr yn gallu gweld gwybodaeth angenrheidiol am ...