Bydd ei hetifeddiaeth yn cael ei dathlu yn ystod Noson Lawen - Cofio Leah Owen a fydd yn cael ei darlledu ar S4C am 7.30pm nos Sadwrn, Ionawr 4, union flwyddyn ar ôl iddi farw yn 70 oed.
Cafodd ei magu yn Rhosmeirch ar Ynys Môn, a bu'n byw ym mhentref Prion yn Sir Ddinbych am flynyddoedd gyda'i gwr Eifion Lloyd Jones a phedwar o blant, Angharad, Elysteg, Ynyr a Rhys.
Bydd y rhaglen yn cael ei harwain gan ddau o'i chyn-ddisgyblion, seren y West End Mared Williams a Steffan Hughes, canwr talentog, cyflwynyd a sylfaenydd y grwp poblogaidd Welsh of the West End, sydd wedi perfformio i bobl fel y Tywysog William, Shirley Bassey a Catherine Zeta-Jones.
Ymhlith y rhai sy'n rhannu eu hatgofion o Leah fydd ei gwr Eifion a'i merch, Angharad, ynghyd â llu o ffrindiau a chyn-ddisgyblion, gan gynnwys Celyn Cartwright, Siân Eirian, Siriol Elin, Gwenan Mars- Lloyd a Branwen Jones.
Dywedodd Steffan, a gafodd ei eni a'i fagu yn Llandyrnog ger Dinbych: "Byddwn yn cofio ac yn dathlu cyfraniad a thalent person oedd yn agos iawn at ein calonnau. Roedd hi'n fraint cael talu teyrnged iddi a dathlu ei bywyd."
Ategwyd y teimlad gan Mared, o Lanefydd ger Dinbych, a ychwanegodd: "Mae pawb yn adnabod llais cwbl unigryw Leah Owen ond roedd hi hefyd yn arweinydd, tiwtor a chyfansoddwr ac yn fentor i gymaint ohonom.
"Bydd atgofion a digon o ganu yn y rhaglen ac ymunodd llawer o ffrindiau a theulu Leah gyda ni yn y gynulleidfa."
Wrth gofio'r diwrnod y cyfarfu am y tro cyntaf â Leah Owen dywedoddSteffan: "Yn y flwyddyn 2000 glaniais ym mlwyddyn 3 yn Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych a Leah Owen oedd fy athrawes ddosbarth ac roedd hi'n athrawes anhygoel a dyna oedd dechrau dros 20 mlynedd o gyfeillgarwch."
Ffurfiodd Leah nifer o gorau a grwpiau canu gan gynnwys Parti'r Ynys, Lleisiau'r Nant, ac Enfys y grwp y bu Steffan yn aelod ohono.
"Mae gan bob un ohonom atgofion i'w trysori o'r dyddiau hynny. Wrth gwrs torrodd fy llais a bu'n rhaid i mi roi'r gorau i ganu am gyfnod a daeth eraill i gymryd fy lle yn Enfys fel Mared Williams, Amber a Jade Davies ac Angharad Rowlands. Rydyn ni i gyd wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd canu proffesiynol."
Er nad oedd Steffan yn dod o gefndir cerddorol, fe wnaeth Leah feithrin dawn canu Steffan a'i annog i gystadlu mewn Eisteddfodau lleol ac yn ddiweddarach ar y llwyfan cenedlaethol.
"Byddwn i'n mynd i'w chartref yn Prion ar gyfer gwersi. Roedd hanner awr gyda hi yn llawn hwyl ac fe ddaeth hi bron fel ail fam i mi," meddai.
Dywedodd Mared: "Fe wnaeth Leah Owen ddechrau fy ngyrfa fel cantores. Roeddwn wedi bod yn cystadlu mewn Eisteddfodau a phan oeddwn yn wyth oed fe wnaeth hi fy annog i gymryd rhan yn yr unawd o sioe gerdd. Wnes i ddim ennill y gystadleuaeth honno ond roedd yn ddechrau ac fe enillais y flwyddyn ganlynol.
"Roedd Leah yn fwy na dim ond tiwtor ac fe gawson ni lot o hwyl o gystadlu i ganu mewn archfarchnadoedd yn codi arian i ymweld â chartrefi gofal."
Dywedodd Steffan a Mared eu bod yn nerfus am y rhaglen arbennig am eu bod yn gwybod y byddai teulu Leah yn y gynulleidfa.
"Roedd yn gyfle i fod gyda'n gilydd ac i hel atgofion ond roedden ni hefyd eisiau iddo ddathlu cyfraniad Leah i gerddoria...